LLONGYFARCHIADAU YSGOL SUL SALEM!
Trefnodd y plant a bobl ifanc De Bach i ddathlu Gwyl Dewi ac i gasglu arian tuag at Apel Madagscar. Yn ogystal a threfnu gwledd o gacennau a danteithion blasus, roeddent hefyd wedi trefnu rhaglen o ganu, llefaru a chwarae offerynau!
Diolch yn Fawrth i chi a Da Iawn Chi!
Dyma luniau o'r prynhawn hwyliog.....
MABOLGAMPAU
Wel am HWYL!
Noson Gymdeithasol: Pitsa ac Ymweliad a'r Orsaf Dan!Cynhaliwyd parti crempog yn yr Ysgol Sul Sul diwethaf i nodi Dydd Mawrth Ynyd a chychwyn cyfnod y Grawys. Cawsom gyfle i son am beth fyddwn yn hoffi ei roi ar ein crempogau.
Mae pethau melys i'n atgoffa i geisio creu sefyllfaoedd 'melys' yn ein bywydau a bywydau eraill. Wrth daenu 'chocolate spread' cofiwn pa mor bwysig ydy taenu a rhannu cariad Iesu. Os yda chi'n hoffi bananas-be am 'fynd yn bananas' a chofio bod mor llawen ac y gallwn ni bob amser! A dyma Dylan yn dangos i'r plant a'r bobl ifanc sut i fflipio crempog go iawn!
Taith Gerdded Llyn Marchlyn
Diolch yn fawr i John Grisdale am arwain taith gerdded i blant a phobol ifanc (a'u rhieni a'u cwn!) y capel yn ystod Hanner Tymor yr Hydref. Er ei bod yn wyntog a gwlyb roedd pawb wedi mwynhau ac yn teimlo llawer gwell o gael 'chydig o awyr iach! |
SBRI BACH SALEM
|
LLONGYFARCHIADAU LLEUCU!
Cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, Gwynedd ar Orffennaf 2-4.
Yng nghystadleuaeth Cwpan Denman cafodd Lleucu Bebb ail wobr siarad gyhoeddus.
Cynhaliwyd Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, Gwynedd ar Orffennaf 2-4.
Yng nghystadleuaeth Cwpan Denman cafodd Lleucu Bebb ail wobr siarad gyhoeddus.