Salem
Yn dilyn diwygiad 1859 penderfynodd yr Annibynwyr yn Eglwys Pendref nad oedd y capel yn ddigon mawr er mwyn ehangu’r achos. Roedd adeilad Pendref wedi ei helaethu ond nid oedd eto ddigon mawr ac roedd yr holl aelodau yn gytun y dylid adeiladu capel mewn rhan arall o’r dref. Mr John Hughes, Watchmaker, deacon ffyddlon oedd yn arwain y gwaith. Sicrhawyd darn o dir mewn man cyfleus yn Pen Llyn, ac er iddo gostio swm mawr o arian, bernid fod ei sefyllfa werth yr arian. Costiodd y tir a’r capel fwy na £3,000. Dewiswyd Parch Thomas Thomas, Glandwr oedd yn enwog fel Cynllunydd Capeli i gynllunio’r capel newydd a chredir iddo gymryd mis i baratoi’r cynlluniau. Rhoddwyd y gwaith o adeiladu’r capel i Mr Richard Davies, Adeiladydd, Caernarfon a’r swm a dalwyd iddo oedd £2070. Dechreuodd ar y gwaith yn Haf 1860 a gosodwyd y Garreg Sylfaen ar Fedi 3ydd 1860. Agrowyd y capel yn 1862 ac edrychid arno fel un o’r capeli coffadwriaethol am droad y ddwy fil gweinidogion allan o’r Eglwys Sefydledig. Cynhlaiwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn y capel newydd ar Fai 11, 1862 pan gynhaliwyd cyfarfod gweddi yn dilyn cyfarfod cau capel Joppa. Traddodwyd y bregeth gyntaf gan Parch David Roberts ar Fai 16. Cynhaliwyd y Cyfarfodydd Agoriadol ar Mai 18-20 1862. Rhif yr aelodau ar y cychwyn oedd 143.Ar Fai 24 ymddangosodd yr adroddiad canlynol o’r Caernarfon and Denbigh Herald:
Ar hyn o bryd, dyma y lle addoliad harddaf yn y dref. Y mae ei brydferthwch allanol yn amlwg i bawb sydd ag achlysur ganddynt i fyned trwy Pool Lane, ac wrth fyned i mewn i’r adeilad cadarnheir yr argraphiad ffarfiol a ffurfiwyd yn barod wrth sylwi ar gysur a ffurf fanteisiol y lle. Y mae yn y capel 138 o eisteddleoedd pa rai allent gynnwys 600-700 o bersonau.
Yn 1865 rhoddwyd galwad i’r Parch Evan Herber Evans Treforys i Salem. Roedd yr achos yn bur wag ar yr adeg honno ond erbyn 1872 yr oedd yr aelodaeth yn 242 ac roedd £3,546 wedi ei gasglu a olygai fod dyled yr eglwys bron wedi ei chlirio yn llwyr. Yn 1878 atgyweirwyd ac addaswyd y capel drwy roi areithfa newydd, set fawr a seddi o dan yr organ. Pan adawodd Herber Evans yn 1894 yr oedd o ran aelodau yr Eglwys Annibynol fwyaf yng Ngogledd Cymru.
Mae Eglwys Salem heddiw yn parhau i ymdrechu’n galed i fod yn dystiolaeth fyw i Efengyl Iesu Grist yn y dref. Y gweinidog presenol yw’r Parch J. Ronald Williams a sefydlwyd yn Mehefin 1979. Mae wedi gweithio yn ddi-flino, gyda holl swyddogion ac aelodau brwdfrydig yr Eglwys i sicrhau fod Salem yn Eglwys fyw a gweithgar. Mae lle plant a phobl ifanc o fewn yr eglwys yn bwysig iawn a bydd rhan cyntaf pob oedfa foreuol yn eu gofal hwy. Yn ogystal â hyn cynhelir oedfaon teulu bob mis. Sefydlwyd grwp cerddorol Gobaith n’ol yn 1991 a bydd yn cyfeilio i ddau emyn gyfoes bob bore gyda’r organydd yn cyfeilio i ddau emyn fwy traddodiadol. Cynhelir Ysgol Sul fywiog bob bore Sul a threfnir cyfarfodydd i’r bobl ifanc. Mae’r Gymdeithas a’r Clwb Llyfrau yn Cyfarfod bob mis. Cefnogir gwaith Cymorth Cristnogol yn rheolaidd ac ymatebir i elusennau eraill fel bo’r galw. Mae’r gynulleidfa yn ceisio ei gorau i ymateb i’r her sy’n wynebu eglwysi ein hoes ac yn gyson yn ystyried ffyrdd newydd o dystiolaethu.