Y Gymdeithas Mae Cymdeithas Salem yn cyfarfod yn dymhorol; DIolchgarwch, Nadolig, Gwyl Ddewi a'r Haf.
Cafwyd Cyfarfod Diolchgarwch arbennig yng nghwmni'r Prifardd Ifor ApGlyn aeth a ni ar daith hyno ddifyr drwy ddarlleniadau o'i farddoniaeth. Cafwyd lluniaeth arbennig i ddilyn a diolch i bawb wnaeth gyfrannu brechdannau a chacennau hynod flasus a pharatoi. Roedd yn braf hefyd cael croesawu ein cyfeillion o Seilo aton ni ar gyfer noson ddifyr a chynnes dros ben. Edrychwn ymlaen i'ch gweld yn Noson Cymdeithas y Nadolig.